Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Ofal Hosbis a Gofal Lliniarol
Yn bresennol:
|
Mark Isherwood AS (Cadeirydd) |
Peter Fox AS |
|
Margaret Hollings, Hosbis Dewi Sant |
Andrea Powell, Gofal Galar Cruse |
|
Matthew Brindley, Hospice UK (Ysgrifennydd) |
Liz Booyse, Hosbis y Ddinas |
|
Grant Usmar, Hosbis y Cymoedd |
Andy Goldsmith, Tŷ Gobaith |
|
Dr Victoria Wheatley, Ymgynghorydd Gofal Lliniarol, BIP Hywel Dda |
Carol Davies, Cymdeithas Clefyd Huntington |
|
Ceridwen Hughes, Same but Different |
Dr. Gwenllian (Gwen) Davies, Ymgynghorydd Gofal Lliniarol, BIP Bae Abertawe
|
|
Harriet Redington, Hospice UK |
Dr Idris Baker, Bwrdd y Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Gofal Lliniarol a Gofal Diwedd Oes |
|
Laura Hugman, Paul Sartori, Hosbis yn y Cartref |
Lauren Emberton, Hosbis Tŷ'r Eos |
|
Tracy Jones, Tŷ Hafan |
Dr Sarah Davies, Meddyg Ymgynghorol, BIPBC |
|
Natasha Davies, Marie Curie |
Tomos Evans, Marie Curie |
|
Oscar Din, , Pancreatic Cancer UK |
|
Ymddiheuriadau:
|
Emma Saysell, Gofal Hosbis Dewi Sant |
Sam Rowlands AS |
|
Darren Rutland, Cymdeithas Clefyd Huntington |
|
Croeso, cyflwyniadau, ac ymddiheuriadau
Croesawodd Marc Isherwood aelodau a siaradwyr i gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol yn trafod:
- Diweddariad ar waith y Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Gofal Lliniarol a Gofal Diwedd Oes
- Goblygiadau'r Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) i Gymru
Cofnodion y cyfarfod blaenorol; materion yn codi
Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol gan Andrea Powell ac eiliwyd gan Sarah Davies.
Arddangosfa 'Dying to be Heard'
Croesawodd Marc Isherwood Ceridwen Hughes o Same but Different a'u gwaith creadigol sy'n canolbwyntio ar gofnodi profiadau gofal diwedd oes a hyrwyddo sgyrsiau gonest ac agored. Nododd Mark ei bod bron i ddwy flynedd ers iddo noddi lansiad yr arddangosfa 'Beth Sydd Bwysicaf?' yn y Senedd, ac roedd yn wych gweld bod y gwaith hwn wedi parhau a datblygu.















Disgrifiodd
Ceri yr effaith enfawr mae marwolaeth anwylyd yn ei chael ar
deulu a ffrindiau a sut mae angen cofnodi a deall eu profiadau'n
iawn.
Roedd y prosiect peilot 'Beth Sydd Bwysicaf?' yn gam cyntaf tuag at wneud hyn ac arweiniodd at greu'r prosiect 'Dying To Be Heard' presennol a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae'r prosiect yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor. Mae'n defnyddio delweddau i ysgogi ymatebion i gwestiynau ynghylch sut mae gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn cael eu darparu, gan ganolbwyntio ar y claf.
Mae rhai o'r themâu allweddol y mae'r prosiect wedi canolbwyntio arnynt yn cynnwys ardaloedd gwledig, cynllunio, marwolaeth dda, materion cymdeithasol,a chymuned. Wrth symud ymlaen, y bwriad yw casglu mwy o brofiadau gan leisiau a chymunedau amrywiol, gyda ffocws ar anghydraddoldebau o ran mynediad at ofal lliniarol a gofal diwedd oes.
Cwestiynau a thrafodaeth
Diolchodd Marc i Ceri am ei chyflwyniad a dywedodd y byddai'r grŵp yn helpu i rannu'r prosiect.
Gofynnodd Dr Sarah Davies a Dr Gwen Davies a oedd elfen Gymraeg i'r prosiect ac awgrymodd y dylai'r grŵp trawsbleidiol gynnwys Cerdd a fideo Cymraeg gan Tudur Hallam.
Dywedodd Ceri fod cynnwys iaith Gymraeg yn rhan o'r prosiect a'u bod nhw bob amser â diddordeb mewn estyn allan i glywed profiadau pobl.
Diolchodd Liz Booyse, Tracy Jones ac eraill i Ceri am rannu'r hyn a oedd yn eu barn nhw yn waith dewr iawn a gwaith sy'n hardd yn weledol hefyd.
Y wybodaeth ddiweddaraf ar y Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Gofal Lliniarol a Gofal Diwedd Oes
Rhoddodd Dr Idris Baker grynodeb o ddogfennau allweddol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Fwrdd y Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Gofal Lliniarol a Gofal Diwedd Oes:
Dywedodd Idris fod grŵp rhanddeiliaid yn cael ei ffurfio i lywio’r gwaith o gyflwyno’r canllawiau cenedlaethol i gefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi cael profedigaeth. Disgrifiodd hefyd y gwaith parhaus i roi ar waith y Fanyleb Gwasanaeth newydd, sy'n canolbwyntio ar ddeall sefyllfa'r Byrddau Iechyd ac eraill o ran bodloni safonau. Tynnodd sylw hefyd at y cyfyngiadau capasiti sy'n wynebu Bwrdd y Rhaglen Genedlaethol wrth fwrw ymlaen â'r gwaith hwn a nododd ei fod yn gobeithio bydd ganddynt fwy o gapasiti wrth symud ymlaen.
Diolchodd Mark Isherwood i Idris am ei gyflwyniad.
Gofynnodd Tracy Jones sut mae Byrddau Iechyd yn cael eu dwyn i gyfrif o ran cyflawni yn erbyn y Fanyleb Gwasanaeth ar gyfer pediatreg. Atebodd Idris fod Bwrdd y Rhaglen Genedlaethol yn gweithio ar hyn.
Gofynnodd Natasha Davies a oes Fframwaith Mesur ac Asesu ar gyfer y Fanyleb Gwasanaeth. Dywedodd Idris y byddent yn datblygu un yn ystod y misoedd nesaf.
Gofynnodd Marc Isherwood pa ddisgwyliadau y mae'r Fanyleb Gwasanaeth yn eu gosod ar hosbisau o ystyried yr heriau sylweddol y maent yn eu hwynebu a chyd-destun ehangach marw â chymorth. Dywedodd Idris fod gwaith comisiynu'r hosbisau yn ganolog i'r gwaith hwn a bod cyflawni'r Fanyleb Gwasanaeth yn rhan o fynd i'r afael â'r pwysau sy'n wynebu hosbisau. Y flaenoriaeth yw cael gofal lliniarol a diwedd oes yn iawn a lleihau anghydraddoldebau gofal.
Dywedodd Liz Booyse fod hosbisau yn hanfodol ar gyfer darparu gofal lliniarol a gofal diwedd oes yng Nghymru a chyflawni amcanion y Fanyleb Gwasanaeth.
Goblygiadau'r Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) i Gymru
Croesawodd Marc Isherwood Dr Victoria Wheatley a chydnabu’r ystod eang o wybodaeth ac arbenigedd yn yr ystafell ac anogodd bawb i gyfrannu at y drafodaeth.



Gweler sleidiau
Victoria isod:


Pwyntiau allweddol a amlygwyd gan Victoria yn ei chyflwyniad:
· Ni fydd pawb yn gymwys i farw â chymorth a gall disgwyliadau cymdeithasol newydd gynyddu dioddefaint o ran y disgwyliad/dyletswydd i farw.
· Nid yw'r Bil yn hyrwyddo dewis ac mae'n cael ei gyflwyno ar adeg pan fo mynediad at Ofal Lliniarol Arbenigol (SPC) yn anghyson, gyda chwarter o'r wlad heb fynediad at welyau SPC.
· Mae'r Bil yn mynd yn groes i ymdrechion atal hunanladdiad ac mae'n peri risg o gynyddu niferoedd hunanladdiadau anfeddygol
· Stori claf, yn disgrifio person oedd eisiau marw pan nad oedd ganddo fynediad at ofal lliniarol priodol ond a newidiodd ei safbwynt o fewn 48 awr o dderbyn gofal lliniarol
· Dim ond 1% o feddygon sy'n debygol o gymryd rhan mewn gwasanaeth marw â chymorth, tra ar yr un pryd gallai'r niferoedd sy'n gymwys fod yn sylweddol.
· Perygl y bydd yn rhaid i sgyrsiau am opsiynau marw â chymorth gyda chleifion ddigwydd hyd yn oed os yw'r Bil yn dweud nad oes rhaid i feddygon wneud hynny.
Cwestiynau a thrafodaeth
Diolchodd Marc Isherwood i Victoria am ei chyflwyniad a gofynnodd o ble ddaeth y ffigur mai dim ond 1% o feddygon sy'n debygol o gymryd rhan mewn marw â chymorth, ac a oedd ffigur tebyg ar gyfer Cymru. Dywedodd Victoria bod y ffigur yn seiliedig ar ddata mewn gwledydd eraill lle cyflwynwyd marw â chymorth ac nad oedd ffigur penodol i Gymru ar gael.
Tynnodd Dr Gwenllian Davies sylw at bryderon ynghylch darpariaeth iaith Gymraeg yn y Bil a gofynnodd a fyddai digon o gefnogaeth/staff i gael y sgyrsiau hyn yn y Gymraeg. Dywedodd ei bod hin teimlo bod angen llais Cymreig penodol o Hospice UK, a bod yna faterion ar wahân sydd ddim yn cael eu cynrychioli, a bod angen cymal optio allan/i mewn.
Dywedodd Dr Idris Baker, o safbwynt Bwrdd y Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Gofal Lliniarol a Diwedd Oes, y byddent yn pryderu pe bai cyflwyno marw â chymorth yn digwydd cyn gwaith brys ac angenrheidiol i wella mynediad at ofal lliniarol a diwedd oes yng Nghymru. Gallai hyn gynyddu pob math o beryglon sydd eisoes yn bodoli i bobl sy'n methu â chael mynediad at ofal. Dywedodd hefyd nad oedd Hospice UK yn gwneud digon o sŵn ynglŷn ag optio allan/i mewn, a bod rhwystredigaeth eang yn sgil 'y farn niwtral'.
Gofynnodd Laura Hugman beth ddylai darparwyr rheng flaen ei wneud. Dywedodd Ceridwen Hughes y dylai Marie Curie a Hospice UK fod yn gwneud mwy. Awgrymodd Margaret Hollings y dylai Hosbisau Cymru goladu adroddiad ar ddata arolwg a meddyliau pellach o bob cwr o Gymru.
Dywedodd Dr Victoria Wheatley fod y rhai oedd yn ymgyrchu dros farw â chymorth â llawer gwell adnoddau na meddygon a bod angen i fwy o sefydliadau dweud eu dweud os oeddent yn teimlo'n gryf am y mater.
Dywedodd Matthew Brindley fod Hospice UK yn gweithio gyda'i aelodau hosbis i fynd i'r afael â phryderon neu broblemau o ran y Bil ac yn cymryd rhan weithredol mewn cynrychioli buddiannau hosbis a gofal lliniarol yn San Steffan a Chymru, ond y bydd yn edrych ar beth arall y gellir ei wneud yng Nghymru yn benodol. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith bod y llwybr Bil Aelod preifat ar gyfer y Bil hwn wedi arwain at fwy o gwestiynau nag atebion, oherwydd bod y rhan fwyaf o'r manylion ynghylch sut y byddai'n cael ei gyflwyno wedi'u dirprwyo i'r Ysgrifennydd Gwladol. Dywedodd fod Prif Swyddog Gweithredol Hospice UK, Toby Porter, yn bwriadu ymuno â chyfarfod Hosbisau Cymru y diwrnod wedyn ac y byddai'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ac yn trafod materion a godwyd yn fanylach gydag aelodau hosbis ac eraill.
Dywedodd Liz Booyse y byddai Hosbisau Cymru yn edrych ar yr hyn y gallent wneud gydag aelodau hosbis i fynd i'r afael â phryderon/problemau o ran marw â chymorth.
Croesawodd Marc Isherwood Peter Fox AS, Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, i siarad am ei waith ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes).
Rhoddodd Peter Fox grynodeb o'r casgliadau a’r argymhellion allweddol gan adroddiad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes).
Mynegodd Dr Victoria Wheatley aDr Gwenllian Davies rwystredigaeth nad oedd y pwyllgor wedi derbyn llawer o dystiolaeth ganddynt, oherwydd mai dim ond cyflwyniadau gan ychydig o fyrddau iechyd oedd yn y dystiolaeth a gasglwyd gan y GIG, felly penderfynwyd nad oedd yn gynrychioliadol ac ni chafodd ei hanfon at y pwyllgor.
Anogodd Peter Fox a Marc Isherwood aelodau i rannu tystiolaeth gyda nhw cyn y ddadl ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol.
Gofynnodd Natasha Davies pam fod gan y cynnig cydsyniad deddfwriaethol gwmpas mor gyfyngedig ac a oedd cyfle i'w ehangu. Gofynnodd Dr Sarah Davies sut y gellid trafod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn briodol pan fo’r Arglwyddi’n dal i wneud gwelliannau.
Dywedodd Peter Fox y byddai'n anodd newid safbwynt Llywodraeth Cymru ar gwmpas y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar hyn o bryd ac nad oedd yn siŵr o'r amseru ar gyfer pleidlais yn y Senedd o ystyried yr hyn sy'n digwydd yn Nhŷ'r Arglwyddi, ac y gallai hyn newid.
Awgrymodd Marc Isherwood y dylai'r grŵp trawsbleidiol ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i godi'r materion allweddol ynghylch marw â chymorth a amlygwyd yn y cyflwyniadau a'r drafodaeth. Awgrymodd hefyd y gallai'r grŵp gyhoeddi datganiad i'r wasg.
Unrhyw fater arall
Dyddiad y cyfarfod nesaf a chloi’r cyfarfod
Diolchodd Mark Isherwood i bawb am ymuno â chyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol a dywedodd byddai dyddiad y cyfarfod nesaf yn cael ei benderfynu a'i rannu.